Gwneud Penderfyniadau Gwybodus
Mae cofnodi perfformiad yn ffurfio sail i ddethol stoc bridio mewn modd cadarnhaol, ac ar sail ystod gyfan o feini prawf o bwys economaidd sy’n hanfodol i fridwyr.
Wrth wneud asesiad gweledol ar hwrdd wrth ddewis stoc bridio, gall fod llawer o’r hyn a welwch yn ganlyniad rheolaeth yn hytrach na geneteg.
Mae defnyddio ymchwil a thechnoleg i gofnodi perfformiad yn dangos arwyddion cywirach o botensial bridio anifail, a’r gwelliannau y gall eu gwneud i berfformiad cyffredinol diadell, naill ai ar gyfer bridio stoc cyfnewid neu ŵyn stôr ac ŵyn tew.
Mae’r Indecs Cymreig yn cyfuno nodweddion mamol a nodweddion carcas. Caiff perfformiad ŵyn ei fonitro o’u genedigaeth hyd 8 wythnos, gan roi darlun cywir o allu mamol y famog. Rhwng 8 ac 20 wythnos, caiff nodweddion twf a nodweddion carcas eu mesur, gan amlygu perfformiad yr ŵyn eu hunain yn ôl y meini prawf hyn.
Rydym yn cofnodi’r holl fanylion a ganlyn er mwyn asesu perfformiad ein stoc –
Cofnodion paru mamogiaid a hyrddod.
Canlyniadau sganio ac oedran ffetysol.
Wyna – rhwyddineb wyna, gwytnwch yr oen.
Manylion adnabod, rhyw ac wythnos genedigaeth, samplu DNA i ddangos manylion rhiantol.
Pwysau erbyn 8 wythnos oed.
Sganio gorchudd braster y cefn yn 20 wythnos oed.
Caiff y data a gesglir ei anfon at Signet i’w ddadansoddi, a chaiff y Gwerthoedd Bridio Tybiedig (EBVs) eu cyfrifo.
Mae’r EBV Cymreig yn rhoi’r arfau i chi wneud penderfyniad gwybodus ynghylch bridio o fewn eich diadell wrth edrych tua’r dyfodol.
Cysylltwch â ni ar
01970 828236
Dewch i adnabod Bridwyr Prohill
Mae ffermio mynyddig yn hanfodol i economi, diwylliant a chymdeithas y Gymru wledig. Er mwyn cynnal yr ardaloedd gwledig hyn, mae Prohill, grŵp blaengar o fridwyr hyrddod mynydd, yn gweithio i gryfhau’r sector ddefaid yng Nghymru.
Arwerthiannau a Digwyddiadau Prohill
Cynhelir ein prif arwerthiant blynyddol ym Mheithyll, Aberystwyth. Rydym yn cynnig opsiynau ychwanegol ar gyfer prynu hyrddod mynydd gyda’u perfformiad wedi’i gofnodi i weithio o fewn eich diadell.