Arwerthiannau a Digwyddiadau
Cynhelir ein prif arwerthiant blynyddol ym Mheithyll, Aberystwyth.
Mae nifer o fridwyr ProHill wedi bod yn cofnodi a gwerthu hyrddod ers nifer o flynyddoedd. Felly, mae grŵp bridio ProHill yn cefnogi pob dull o werthu, boed yn breifat, arwerthiant fferm, arwerthiannau marchnad neu drwy brif arwerthiant ProHill yn Aberystwyth.
Mae nifer o’n bridwyr yn gwerthu eu hyrddod yn breifat o gartref. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01970 828236.
Mi fydd hyrddod ProHill ar gael yn yr arwerthiannau isod
- ProHill Aberystwyth – 26ain o Fedi – Peithyll, Capel Dewi, Aberystwyth, SY23 3HU.
- Gwastadanas – 8fed o Hydref 2024 am 5yh. Arwerthiant ar fferm Gwastadanas, Nant Gwynant, o hyrddod mynydd Cymreig a’i perfformiad wedi recordio.
- Marchnad Dolgellau
- Tregaron
- Llanymddyfri
Cysylltwch â ni ar
01970 828236
Dewch i adnabod Bridwyr Prohill
Mae ffermio mynyddig yn hanfodol i economi, diwylliant a chymdeithas y Gymru wledig. Er mwyn cynnal yr ardaloedd gwledig hyn, mae Prohill, grŵp blaengar o fridwyr hyrddod mynydd, yn gweithio i gryfhau’r sector ddefaid yng Nghymru.
Chofnodi Perfformiad
Mae cofnodi perfformiad yn ffurfio sail i ddethol stoc bridio mewn modd cadarnhaol, ac ar sail ystod gyfan o feini prawf o bwys economaidd sy’n hanfodol i fridwyr.