Gwneud Penderfyniadau Gwybodus

Mae cofnodi perfformiad yn ffurfio sail i ddethol stoc bridio mewn modd cadarnhaol, ac ar sail ystod gyfan o feini prawf o bwys economaidd sy’n hanfodol i fridwyr.

Wrth wneud asesiad gweledol ar hwrdd wrth ddewis stoc bridio, gall fod llawer o’r hyn a welwch yn ganlyniad rheolaeth yn hytrach na geneteg.

Mae defnyddio ymchwil a thechnoleg i gofnodi perfformiad yn dangos arwyddion cywirach o botensial bridio anifail, a’r gwelliannau y gall eu gwneud i berfformiad cyffredinol diadell, naill ai ar gyfer bridio stoc cyfnewid neu ŵyn stôr ac ŵyn tew.

Mae’r Indecs Cymreig yn cyfuno nodweddion mamol a nodweddion carcas. Caiff perfformiad ŵyn ei fonitro o’u genedigaeth hyd 8 wythnos, gan roi darlun cywir o allu mamol y famog. Rhwng 8 ac 20 wythnos, caiff nodweddion twf a nodweddion carcas eu mesur, gan amlygu perfformiad yr ŵyn eu hunain yn ôl y meini prawf hyn.

Rydym yn cofnodi’r holl fanylion a ganlyn er mwyn asesu perfformiad ein stoc –

  • Cofnodion paru mamogiaid a hyrddod.

  • Canlyniadau sganio ac oedran ffetysol.

  • Wyna – rhwyddineb wyna, gwytnwch yr oen.

  • Manylion adnabod, rhyw ac wythnos genedigaeth, samplu DNA i ddangos manylion rhiantol.

  • Pwysau erbyn 8 wythnos oed.

  • Sganio gorchudd braster y cefn yn 20 wythnos oed.

Caiff y data a gesglir ei anfon at Signet i’w ddadansoddi, a chaiff y Gwerthoedd Bridio Tybiedig (EBVs) eu cyfrifo.

Mae’r EBV Cymreig yn rhoi’r arfau i chi wneud penderfyniad gwybodus ynghylch bridio o fewn eich diadell wrth edrych tua’r dyfodol.

Tystebau

"Rydym wedi defnyddio hyrddod y cofnodir eu perfformiad ar ein holl famogiaid dros y deng mlynedd diwethaf, ac rydym yn gweld gwelliannau sylweddol ym mhob agwedd o’n diadell. Mae’n sicr fod budd o ddefnyddio stoc bridio y cofnodir eu perfformiad. Caiff 250 o’n mamogiaid eu hyrdda gan hyrddod Cymreig y cofnodir eu perfformiad yn flynyddol, ac maent yn wyna yn yr awyr agored ym mis Ebrill. Cedwir y goreuon o blith yr ŵyn benyw fel mamogiaid cyfnewid o fewn y ddiadell, ac maent yn dangos eu bod yn famau o’r ansawdd uchaf, yn wyna’n hawdd a chanddynt reddfau mamol cryf. Caiff y gweddill eu bridio gyda hyrddod terfynol.

Yn ogystal â’u perfformiad mamol, rydym hefyd yn gweld fod yr hyrddod yn dod âbuddion ychwanegol o ran cynhyrchu ŵyn tew ar y fferm. Mae ein hŵyn bellach yn cyrraedd pwysau lladd o 16kg, ac yn bodloni’r fanyleb R3L, lle mai dim ond gradd O yr oeddem yn ei gwireddu yn y gorffennol."

Owen Pritchard, Glanmor Isaf, ger Bangor

Cysylltwch â ni ar

01970 828236

Dewch i adnabod Bridwyr Prohill

Mae ffermio mynyddig yn hanfodol i economi, diwylliant a chymdeithas y Gymru wledig. Er mwyn cynnal yr ardaloedd gwledig hyn, mae Prohill, grŵp blaengar o fridwyr hyrddod mynydd, yn gweithio i gryfhau’r sector ddefaid yng Nghymru.

Arwerthiannau a Digwyddiadau Prohill

Cynhelir ein prif arwerthiant blynyddol ym Mheithyll, Aberystwyth. Rydym yn cynnig opsiynau ychwanegol ar gyfer prynu hyrddod mynydd gyda’u perfformiad wedi’i gofnodi i weithio o fewn eich diadell.