Ynglŷn â grŵp ProHill

Mae ffermio mynyddig yn hanfodol i economi, diwylliant a chymdeithas y Gymru wledig. Er mwyn cynnal yr ardaloedd gwledig hyn, mae ProHill, grŵp blaengar o fridwyr hyrddod mynydd, yn gweithio i gryfhau’r sector ddefaid yng Nghymru.

Mae ProHill yn gwella safon enetig eu diadelloedd, gan gynhyrchu ŵyn sy’n cwrdd ag anghenion y farchnad gig trwy ddefnyddio systemau pori estynedig a hyrddod bridio sydd â’u perfformiad yn hysbys ac yn uwch.

Er mwyn cyflawni hyn, maent yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf sydd ar gael, gan gynnwys bugeilio DNA, i ddewis a bridio o’r anifeiliaid sy’n perfformio orau, gan gyflenwi sector ffermio mynydd y DU â stoc sydd â photensial genetig uwch.

Mae hyrddod ProHill ar gael yn ein harwerthiant blynyddol a gynhelir yn Aberystwyth, yn ogystal ag yn uniongyrchol gan rai o’n bridwyr a mewn marchnadoedd ar draws Gymru. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth

Tystebau

"Rydym wedi defnyddio hyrddod y cofnodir eu perfformiad ar ein holl famogiaid dros y deng mlynedd diwethaf, ac rydym yn gweld gwelliannau sylweddol ym mhob agwedd o’n diadell. Mae’n sicr fod budd o ddefnyddio stoc bridio y cofnodir eu perfformiad. Caiff 250 o’n mamogiaid eu hyrdda gan hyrddod Cymreig y cofnodir eu perfformiad yn flynyddol, ac maent yn wyna yn yr awyr agored ym mis Ebrill. Cedwir y goreuon o blith yr ŵyn benyw fel mamogiaid cyfnewid o fewn y ddiadell, ac maent yn dangos eu bod yn famau o’r ansawdd uchaf, yn wyna’n hawdd a chanddynt reddfau mamol cryf. Caiff y gweddill eu bridio gyda hyrddod terfynol.

Yn ogystal â’u perfformiad mamol, rydym hefyd yn gweld fod yr hyrddod yn dod âbuddion ychwanegol o ran cynhyrchu ŵyn tew ar y fferm. Mae ein hŵyn bellach yn cyrraedd pwysau lladd o 16kg, ac yn bodloni’r fanyleb R3L, lle mai dim ond gradd O yr oeddem yn ei gwireddu yn y gorffennol."

Owen Pritchard, Glanmor Isaf, ger Bangor

Cysylltwch â ni ar

01970 828236

Dewch i adnabod bridwyr ProHill

Mae ffermio mynyddig yn hanfodol i economi, diwylliant a chymdeithas y Gymru wledig. Er mwyn cynnal yr ardaloedd gwledig hyn, mae ProHill, grŵp blaengar o fridwyr hyrddod mynydd, yn gweithio i gryfhau’r sector ddefaid yng Nghymru.

Cofnodi Perfformiad

Mae cofnodi perfformiad yn ffurfio sail i ddethol stoc bridio mewn modd cadarnhaol, ac ar sail ystod gyfan o feini prawf o bwys economaidd sy’n hanfodol i fridwyr.

 

Arwerthiannau a Digwyddiadau Prohill

Cynhelir ein prif arwerthiant blynyddol ym Mheithyll, Aberystwyth. Rydym yn cefnogi ein cwsmeriaid trwy gynnig opsiynau ychwanegol ar gyfer prynu hyrddod mynydd gyda’u perfformiad wedi’i gofnodi i weithio o fewn eich diadell.