Morris Gwyn Parry – Orsedd Fawr

Ffon – 07974 658191 

Brid o ddefaid – Defaid Cymraeg Llandovery

Darganfyddwch ragor am ddiadell Orsedd Fawr...

Fferm organig yn Nghwm Ystradllyn a Clynnog Fawr ydi Orsedd Fawr. Yn ogystal a 550 o ddefaid masnachol a buches o wartheg sugno, mae Gwyn Parry yn cadw 250 o ddefaid Cymraeg Llandovery. Wedi gwerthu hyrddod ers 10 mlynedd, mae Mr Parry yn ymfalchïo mewn gwerthu hyrddod heb gael ei gwthio na’i maldodi ar gyfer yr arwerthiannau ac mae’n cadw at bolisi llym o gael gwared ar stoc sydd ddim yn perfformio yn ei system. Yn 2019, fe aeth gam ymhellach a dechrau nodi  perfformiad ei ddiadell trwy gynllun hyrddod mynydd Hybu Cig Cymru. 

Mae’r mamogiaid yn pwyso oddeutu 65cg a sganio rhwng 170 a 180%, yn wyna allan drwy fis Mawrth ag Ebrill. Mae system Orsedd Fawr yn defnyddio porfa yn unig a nid yw’r defaid na’r wyn yn derbyn unrhyw ddwysfwyd. Felly, mae perfformiad ar borfa yn hanfodol yn ogystal a ‘ewe longevity’.

Mae Gwyn wastad wedi sicrhau bod yr hyrddod sy’n dod i Orsedd Fawr wedi profi ei hunan mewn diadelloedd eraill, fel arfer yn prynu hyrddod hyn i gael gwell syniad o’i rhinweddau. Fel mae’r cynllun hyrddod mynydd yn symud ymlaen, bydd y nifer o hyrddod mynydd Cymraeg gyda ffigyrau perfformiad ar gael yn cynyddu.

“Trwy ddefnyddio EBVs, dwi’n gobeithio gallu gwaredu a’r defaid sy’n perfformio waethaf a cadw y mamogiaid gorau – sy’n gwneud yn dda ar borfa ag yn para yn y ddiadell – i fridio. Wrth recordio, fydd gena ni y dystiolaeth i gefnogi ein penderfyniadau bridio”

Bedwyr Jones- Gwastadanas

Ffon – 07801 355447

Brid o ddefaid – Defaid Mynydd Gogledd Cymru

Darganfyddwch ragor am Bedwyr...

Mae Bedwyr Jones yn ffermio ochr yn ochr â’i deulu ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mae Mr Jones wedi bod yn amaethu yng Ngwastadanas ers dros ugain mlynedd, ac mae’n canolbwyntio ar ddethol yn ôl nodweddion mamol a rhwyddineb wyna yn ogystal â ffocysu ar berfformiad da ar borfa o ansawdd is. Mae Bedwyr yn ymdrechu i sicrhau bod y mamogiaid yn effeithlon ac yn gynhyrchiol.

Mae’r fferm yn rhan o gynllun amgylcheddol Glastir, ac felly mae’n hanfodol i’r busnes fod y mamogiaid yn addasu i’w hamgylchedd ac yn galluogi i’r ŵyn ffynnu.

Caiff 1200 o famogiaid eu troi at hyrddod Mynydd Cymreig yn flynyddol, gyda pherfformiad 350 o’r rhain yn cael ei gofnodi. Caiff 600 o ŵyn benyw eu cadw ymlaen fel mamogiaid cyfnewid yn flynyddol. Mae defaid dau ddant yn cael eu paru â hwrdd Romney, ac mae’r mamogiaid sy’n perfformio orau yn cael eu paru â hyrddod Cymreig y flwyddyn ganlynol.

Mae Bedwyr wedi gwneud defnydd o gofnodi perfformiad yn y gorffennol, ac mae’n teimlo ei fod yn arf hynod ddefnyddiol i fireinio penderfyniadau bridio; mae wedi ymuno â’r cynllun hyrddod mynydd er mwyn cofnodi a chasglu gwybodaeth fwy cywir o ran pa anifeiliaid sy’n perfformio’n dda o fewn ei system.

Ers amser maith, bu gan y fferm arwerthiant o hyrddod a faged gartref; cynhelir y digwyddiad hwn yng Ngwastadanas, a gwerthir oddeutu 40 yn flynyddol. Bydd y prosiect yn ceisio cefnogi Mr Jones wrth iddo drefnu’r arwerthiant hwn, gan hyrwyddo’r cofnodi perfformiad ochr yn ochr â’i brofiad helaeth.

‘Mae mynyddoedd Eryri yn amgylchedd anfaddeugar, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y canlyniadau o allu dewis mamogiaid sy’n perfformio’n gyson dda o fewn y system hon. Mae’r gallu i ddefnyddio technoleg samplu DNA yn golygu nad oes llafur ychwanegol i mi adeg wyna, ond fy mod yn dal i allu cadw cofnod o fy mhraidd o fewn y system estynedig hon.’

Irwel Jones- Aberbranddu

Ffon – 07834 551126

Brid o ddefaid – Defaid Cymraeg Tregaron

Darganfyddwch ragor am Irwel...

Mae Aberbranddu, sy’n swatio yn Nyffryn Cothi, yn fferm sydd â ffocws llygatgraff ar effeithlonrwydd a gyrru proffidioldeb. Mae Irwel a’i deulu wedi rhoi sawl prosiect ar waith ar eu fferm dros nifer o flynyddoedd, gan ganolbwyntio ar elfennau megis rheolaeth glaswelltir ac iechyd anifeiliaid. Maent wedi rhedeg diadell gaeedig ers dros ddeugain mlynedd, gan fuddsoddi mewn hyrddod cyfnewid yn unig, a bridio mamogiaid gwydn, mamol, a hawdd eu rheoli. Mae’r ddiadell gyfan yn wyna yn yr awyr agored, a chant eu rheoli mewn grwpiau mawr er mwyn creu cymhariaeth deg o ran eu perfformiad.

Mae Irwel yn teimlo bod y praidd bellach yn barod yn enetig i wthio’r ffiniau hefyd. Prif ffocws y fferm wrth wneud dewisiadau ar sail geneteg fydd sicrhau mamogiaid sy’n cynhyrchu ŵyn o system sy’n seiliedig ar laswellt y gellir ei gwerthu cyn gynted â phosibl. Yn ogystal â’r manteision cronnol o ddewis gwell geneteg ar gyfer praidd Aberbranddu, y nod hefyd fydd gwerthu hyrddod â ffigurau perfformiad.

‘O gadw llygad ar ofynion y farchnad, mae angen i fy mhraidd fod yn cynhyrchu ŵyn sy’n pwyso dros 16kg yn gyson, gyda graddau cydffurfiad o R neu well, mor gyflym ac effeithlon â phosib. Mae gwerthu fy hyrddod yn arwerthiant y gymdeithas fridwyr lleol yn Nhregaron yn destun balchder mawr i mi, a bydd cynhyrchu hyrddod gyda Gwerthoedd Bridio Tybiedig (EBVs) yn gyfle i fy nghwsmeriaid gael sicrwydd ychwanegol o ran perfformiad fy hyrddod’

Rhidian Glyn- Rhiwgriafol, Machynlleth 

Ffon – 07508 969437

Brid o ddefaid – Defaid Cymraeg Tregaron / Defaid Pengwyn

Darganfyddwch ragor am Rhidian...

Mae Rhidian Glyn yn ffarmwr ifanc o Fachynlleth. Mae’n angerddol, mae ganddo ben busnes, ac mae’n chwilio’n gyson am gyfleoedd i arloesi gyda’i system. Ers derbyn y denantiaeth fusnes ddeng mlynedd, mae’r fferm wedi mynd o nerth i nerth; ystyrir mai geneteg mamogiaid yw asgwrn cefn y ddiadell ac mai dyma sy’n gyrru perfformiad ariannol.

Mae Rhidian yn cadw 800 o famogiaid Cymreig, gan gofnodi perfformiad 300 ohonynt, a’u bridio’n bur i gynhyrchu mamogiaid cyfnewid. Mae’r holl famogiaid yn wyna yn yr awyr agored, ac nid ydynt wedi derbyn porthiant caled ers 2017.

Mae Rhidian hefyd wedi profi llwyddiant wrth sefydlu marchnad ar gyfer mamogiaid croesfrid o’i ddiadell, sy’n dod ag incwm ychwanegol i’r busnes. Mae ŵyn lladd yn pesgi i bwysau marw o 16kg ar y lleiaf, a chyfartaledd o 18kg.

Mae cynhyrchu o borfa hefyd yn cael ei ystyried yn agwedd bwysig o waith y fferm, a chaiff yr hyrddod eu paratoi i’w gwerthu ar system ar sail porfa.

‘Rwy’n gobeithio gwella effeithlonrwydd mamogiaid o ganlyniad i’r cynllun. Bydd hyn yn creu perfformwyr cryfach y gellir adnabod eu hepil yn rhwydd; bydd modd hefyd tynnu’r perfformwyr gwaethaf allan o’r cnewyllyn bridio yn ogystal, sydd yr un mor bwysig’.

‘Trwy’r cynllun, byddaf yn adnabod 25% uchaf y mamogiaid bridio yn fy mhraidd ac mewn amser, bydd hyn yn treiddio drwodd i’r mamogiaid croesfrid y byddaf yn eu gwerthu, trwy barhau i wella perfformiad cyfartalog fy niadell gyfan’

Gareth Roberts, Ynys Enlli, Gogledd Cymru 

Ffon – 07967 467379

Brid o ddefaid – Defaid Cymraeg Tregaron

Darganfyddwch ragor am Gareth...

Lleolir Ynys Enlli gerllaw’r arfordir ym mhen draw Penrhyn Llŷn; mae’n gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt, ar y tir ac yn y môr, yn ogystal â diadell o ddefaid Mynydd Cymreig. Gareth Roberts a’i wraig Meriel, gyda chymorth y teulu, yw perchnogion a gwarcheidwaid y ddiadell ar Enlli, ac maent wedi ymuno â’r Cynllun Hyrddod Mynydd i wella perfformiad masnachol y ddiadell o fewn yr amgylchedd unigryw hon, a chychwyn gwerthu hyrddod.

Bydd y cynllun yn galluogi i Mr Roberts asesu perfformiad ffisegol y mamogiaid, adnabod stoc sydd â nodweddion mamol a nodweddion cynhyrchu carcasau uwch o fewn ei braidd, a manteisio arnynt trwy ddewisiadau bridio. O ganlyniad, gall ddewis yr eneteg gywir o fewn ei braidd a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd heb newid eu hamgylchedd.

‘Mae cydweithio â’r Ymddiriedolaeth yn golygu ein bod yn llwyr ddeall yr angen i fod ag arfau ar waith i annog yr amgylchedd naturiol o’n cwmpas; mae’r mamogiaid yn rhan effeithlon a hanfodol o gylch bywyd yr ynys’

Tim a Dot Tyne- Ty’n y Mynydd, Pwllheli

Ffon – 01758 721898

Brid o ddefaid – Defaid Cymraeg wedi gwella

Darganfyddwch ragor am Tim a Dot...

Mae’r teulu Tyne yn cadw 200 o famogiaid Cymreig wedi’u gwella yn ardal Pwllheli, Gogledd Orllewin Cymru. Mae’r mamogiaid wedi eu cofnodi ers 13 mlynedd ac yn y cyfnod hwnnw, mae ansawdd y defaid wedi gwella’n sylweddol. Ar y cychwyn, roedd dewisiadau o fewn y ddiadell yn ffocysu ar Werthoedd Bridio Tybiedig (EBVs) yn ymwneud â nodweddion mamol, er mwyn gwella safon y mamogiaid. Erbyn hyn, mae’r mamogiaid yn fwy cyson o ran eu math, ac maent o fewn 10% uchaf y brid o ran perfformiad. Erbyn hyn, mae’r teulu Tyne yn ystyried yr indecs cyffredinol wrth ddewis mamogiaid cyfnewid, ond gan barhau i roi pwyslais cryf ar berfformiad mamol.

Y prif beth sy’n gyrru bridio o fewn y ddiadell yw cynhyrchu lliniau benywaidd da a hyrddod bridio sy’n rhoi ŵyn benyw o’r ansawdd uchaf i gwsmeriaid.

Mae system y fferm yn seiliedig ar borfa, gan ddefnyddio porfa laswellt a silwair a dyfir ar dir y fferm. Nid yw’r mamogiaid yn derbyn porthiant caled a chaiff yr holl ŵyn eu pesgi ar borfa, sy’n golygu fod data yn cael ei gasglu mewn modd diduedd.

Cedwir yr holl ŵyn benyw nes adeg eu dewis pan fyddant yn hesbinod, gyda’r goreuon yn cael eu cadw fel mamogiaid cyfnewid o fewn y ddiadell, a’r gweddill yn cael eu gwerthu i gwsmeriaid sydd wedi prynu ganddynt yn y gorffennol.

Cedwir ŵyn gwryw er mwyn asesu eu potensial fel stoc bridio, a gwerthir y gweddill trwy’r farchnad.

Mae’r teulu Tyne wedi ymuno â’r cynllun hyrddod mynydd er mwyn parhau i wella gwerth genetig y ddiadell, gan ddefnyddio technoleg megis rhianta DNA i wneud y broses gofnodi yn fwy effeithlon.

Carys Jones- Carregcynffyrdd, Llangadog

Ffon – 07900 685054

Brid o ddefaid – Defaid Cymraeg wedi gwella

Darganfyddwch ragor am Carys...

Mae Carys yn ffermio mewn partneriaeth â’i theulu yn dilyn dychwelyd adref o’r brifysgol yn 2015. Maent yn amaethu ym mharc cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac mae ganddynt hawliau pori comin ar y Mynydd Du. Ochr yn ochr â deugain o fuchod magu, mae Carys yn cadw 550 o famogiaid Cymreig wedi’u gwella, gyda 150 o ddefaid cyfnewid. Mae’r prif braidd o 300 o famogiaid yn mynd at yr hwrdd i fridio defaid cyfnewid i’r ddiadell. Caiff ŵyn benyw eu paru â hwrdd Charmoise am un cylch, a chaiff y mamogiaid sy’n weddill eu troi at hwrdd terfynol.

I Carys, mae bridio ar gyfer nodweddion mamol a’r gallu i besgi ŵyn ar borfa yn hanfodol i’r system. Mae wedi ymuno â’r cynllun er mwyn gwella perfformiad y ddiadell, gan waredu’r mamogiaid hynny nad ydynt yn perfformio, a bridio’n ddetholus o’r rhai sy’n llwyddo. Er mwyn gwireddu hyn, mae Carys wedi dewis cofnodi ei mamogiaid â llaw, a hi yw’r unig un o’r preiddiau arweiniol sy’n gwneud hynny.

‘Rydym wedi bod yn cofnodi perfformiad ers dwy flynedd, ac mae eisoes wedi profi’n fuddiol wrth adnabod y mamogiaid sy’n perfformio orau er mwyn bridio mamogiaid cyfnewid i’n diadell yn y dyfodol.’

‘Gyda chymorthdaliadau yn debygol o gael eu diddymu, mae gennym bwyslais cryf ar leihau costau cynhyrchu ac uchafu allbynnau. Rydym yn gweld y Cynllun Hyrddod Mynydd a chofnodi perfformiad fel arf i’n helpu i wireddu hynny.’

Simon a Rhodri Lloyd-Williams- Moelgolomen, Aberystwyth

Ffon – 07792 148588

Brid o ddefaid – Defaid Mynydd Gogledd Cymru

Darganfyddwch ragor am Simon a Rhodri...

Cofnodir perfformiad pob un o’r 720 o famogiaid ar fferm Moelgolomen ger Aberystwyth, ac mae hynny wedi bod yn digwydd ers ugain mlynedd. Mae dros hanner y fferm ar borfa fynyddig sydd heb ei wella, ac felly mae cadw mamog wydn all gynhyrchu ŵyn o system gynaliadwy, mewnbwn isel, yn hanfodol.

Mae’r ddiadell yn un fasnachol sy’n wyna yn yr awyr agored; mae’r holl famogiaid cyfnewid yn cael eu bridio ar y fferm, a dim ond hyrddod bridio sy’n cael eu prynu o’r tu allan.

Caiff mamogiaid drafft ac ŵyn benyw dros ben eu gwerthu o’r fferm, a chaiff hyrddod blwydd eu gwerthu’n flynyddol yn yr arwerthiant hyrddod Mynydd Cymreig yn Aberystwyth.

Mae’r teulu Lloyd-Williams yn ffocysu’n gryf ar uchafu perfformiad ar borfa yn unig. Mae’r ŵyn nad ydynt yn cael eu cadw i fridio yn cael eu gwerthu’n dew, a’r nod yw lleihau’r amser a gymerir i gyrraedd pwysau gwerthu, a gwella graddau cydffurfiad tra’n cadw maint ac anghenion gofal y mamogiaid. O ganlyniad, mae dethol yn ôl twf ŵyn, dyfnder cyhyr a chydffurfiad carcass yn cyd-fynd â dethol yn ôl nodweddion mamol yn y mamogiaid er mwyn sicrhau twf a goroesiad ŵyn.

Dros y gaeaf, mae’r amodau ar y mynydd yn golygu fod gorchudd braster a Sgôr Cyflwr Corff da yn hanfodol, gan wella goroesiad mamogiaid dros y gaeaf a sicrhau’r gallu i ddarparu llaeth digonol yn y Gwanwyn, ac o ganlyniad, gwella goroesiad ŵyn. Maent hefyd wedi darganfod fod y ganran wyna wedi cynyddu o ganlyniad, er nad ydynt wedi dethol yn benodol i gael cyfradd uwch o efeilliaid.

Trwy ymuno â grŵp ProHill, bydd y teulu Lloyd-Williams yn adnabod anifeiliaid o fewn y ddiadell sy’n perfformio’n gyson dda ar y nodweddion sy’n fwyaf perthnasol iddynt. Maent yn ymdrechu i gyflawni gwelliant parhaus o ran effeithlonrwydd y ddiadell, yn ogystal â gwella ansawdd eu cig oen amgylcheddol ac economaidd gynaliadwy.

Ed Williams- Upper Wenallt, Aberhonddu 

Ffon – 01874 676298

Brid o ddefaid – Defaid Cymraeg wedi gwella

Darganfyddwch ragor am Ed...

Yn Upper Wenallt ym Mannau Brycheiniog, bu’r ffocws erioed ar famog all fyw’n rhad a pherfformio’n dda ar borfa a gwreiddiau cartref. Ers y cychwyn, mae Ed Williams wedi canolbwyntio ar nodweddion mamol ei famogiaid, gan ei fod yn credu’n gryf nad oes pwrpas cael oen gyda photensial perfformiad uchel oni bai fod gan y famog allu mamol i ganiatáu i’r oen gyflawni’r potensial hwnnw.

Mae’r ddiadell, sy’n cynnwys 400 o famogiaid, yn pori rhwng 750 a 1200 troedfedd uwch lefel y môr, ac maent yn cael eu paru â hyrddod amrywiol. Mae mwyafrif y ddiadell Gymreig bur yn famogiaid sydd ag EBV sy’n disgyn o fewn 25% uchaf eu brid o ran perfformiad. Mae mamogiaid sy’n sgorio’n is yn cael eu troi at hyrddod Abertex/Aberdale, gyda’u hepil benywaidd yn cael eu cadw a’u paru yn ôl â hyrddod Beltex/Chamoise Hill.

Mae’r meini prawf dethol llym hyn ar gyfer y ddiadell bur wedi arwain at ddefnyddio mamogiaid sydd ymhell dros y cyfartaledd i fridio’r famog groesfrid gyntaf, a gwelir cynnydd amlwg yn eu perfformiad o ganlyniad. Mae hyn yn profi bod gwella’r perfformiad ar un pen yn cael effaith sy’n treiddio’r holl ffordd drwy’r system.

Y prif amcan wrth gofnodi perfformiad yw adnabod y teithwyr diog o fewn y ddiadell. Mae’r defaid sy’n perfformio orau yn aml yn sefyll allan beth bynnag, ond gall perfformwyr gwael ddisgyn o dan y radar, a gwastraffu’r cynnydd a wnaed.

Garry Williams- Blaencennen, Llangadog

Ffon – 07811 177671

Brid o ddefaid – Defaid Cymraeg wedi gwella

Darganfyddwch ragor am Garry...

Mae’r 700 o famogiaid sy’n rhan o ddiadell Blaencennen o ddefaid Mynydd Cymreig wedi’u Gwella yn crwydro’r Mynydd Du yng Ngorllewin Bannau Brycheiniog.

Mae’r fferm yn cynnwys 285 erw o dir yn ogystal â hawliau pori ar gomin y mynydd, gyda’r cyfan yn amrywio o 850 i 1100 troedfedd uwchlaw lefel y môr.

Er bod y fferm yn croesi hyrddod terfynol a mamol dros gyfran o’r ddiadell at ddibenion amrywiol, caiff 250 o famogiaid eu cadw’n bur a chofnodir eu perfformiad, gan ffurfio cnewyllyn-ddiadell a ddefnyddir gan y fferm i fridio’r holl famogiaid cyfnewid.

Bu Garry yn cofnodi perfformiad y ddiadell ers 24 mlynedd, ac mae’n defnyddio defaid sydd â’u perfformiad wedi’i gofnodi cymaint ag sy’n bosib. Mae perfformiad mamogiaid ac ŵyn o bwys allweddol i broses fridio Garry. Trwy gofnodi perfformiad, ei nod yw taro cydbwysedd rhwng nodweddion cigyddol a nodweddion mamol ei ddiadell, gan gynhyrchu mamogiaid cyfnewid sy’n perfformio’n dda ac ŵyn sy’n pesgi’n hawdd ac yn bodloni’r fanyleb.

Y bwriad o fewn y ddiadell yw parhau i ganolbwyntio ar y nodweddion perfformiad allweddol hyn er mwyn cynnal cynhyrchedd ac effeithlonrwydd ei ddiadell ei hun, yn ogystal â phasio’r buddion hyn ymlaen i’w gwsmeriaid sy’n dychwelyd i brynu ŵyn benyw.

Hywel Wigley- Llwyngwern, Gwynedd

Ffon – 07792 193069

Brid o ddefaid – Defaid Cymraeg wedi gwella

Darganfyddwch ragor am Hywel...

Mae’r tir yn Fferm Llwyngwern, Gwynedd, yn codi o 600 i 2000 troedfedd uwchlaw lefel y môr ac o ganlyniad, mae dethol a bridio gan famogiaid sy’n perfformio’n dda yn allweddol yn y ddiadell hon o famogiaid Mynydd Cymreig gwydn.

Mae perfformiad y ddiadell wedi’i gofnodi ers 1995, a gallu mamol a dyfnder cyhyr yw dau o’r prif nodweddion y mae Mr Wigley yn dethol ar eu cyfer.

Oherwydd natur y tir, anelir at ganran wyna o 115%. Caiff defaid sy’n magu ŵyn sengl eu cadw allan dros y gaeaf, ac maent yn wyna yn yr awyr agored ar rannau is y mynydd a’r ffridd, heb unrhyw borthiant ychwanegol. Mae’r mamogiaid sy’n cario efeilliaid yn wyna dan do oherwydd trafferthion diweddar gyda llwynogod.

Caiff mamogiaid eu cadw am chwe mlynedd gan amlaf, er y caiff unrhyw ddefaid sy’n achosi problemau o fewn y ddiadell eu gwaredu. Yn ogystal, caiff mamogiaid gydag indecs is eu croesi gyda hwrdd Romney, ac mae 250 ychwanegol o famogiaid ar y fferm sy’n groes rhwng y Romney a’r ddafad Gymreig, er mwyn cynnal helaethrwydd.

Roger a Ceri Squire- Tylacoch, Pen-y-bont

Ffon – 07887 590935

Brid o ddefaid – Defaid mynydd Cymraeg pen gwyn

Darganfyddwch ragor am Roger a Ceri...

Ar fferm Tylacoch ger Pen-y-Bont, mae Roger a Ceri Squire yn recordio perfformiad 250 o ddefaid mynydd pen gwyn ar y cyd gyda 3 diadell arall o ddefaid o fridiau prin sy’n cael ei magu yn bedigri a buches o wartheg ‘British Blue’.

Er eu bod yn hapus gyda gallu mamol eu praidd, teimlent nad oedd cyfran o’r ddiadell yn perfformio fel y dymunent a gwelsant le i wneud rhai gwelliannau yn y canran sganio ac, yn enwedig yn y nodweddion cig o ran cynhyrchu gorffenedig. Mae defaid Tylacoch yn pwyso rhwng 45 a 55kg, ac er ei bod ar hyn o bryd yn sganio ychydig yn llai na 100%, gobeithia’r ddau weld cynnydd yn y ffigwr yma drwy fuddsoddi yn iechyd y ddiadell ac mewn hyrddod gyda ffigyrau uwch am helaethrwydd.

Drwy recordio perfformiad eu defaid a defnyddio hyrddod gydag EBVs, maent bellach wedi’u harfogi â’r ffigurau i wneud penderfyniadau gwybodus ac mae ganddynt allu i olrhain yn llawn drwy’r ddiadell o ran pa linellau sy’n perfformio a pha rai nad ydynt.

Mae hyrddod pedigri Tylacoch wedi cael eu gwerthu trwy werthiant cymdeithasau bridiau yn y gorffennol a gobeithiwn eu croesawu i arwerthiant ProHill yn Aberystwyth yn y dyfodol agos.

Owen Pritchard- Glanmor Isaf, Bangor

Ffon – 07846 350597

Brid o ddefaid – Defaid Cymraeg wedi gwella

Darganfyddwch ragor am Owen...

Ar fferm Glanmor Isaf, mae Owen yn canolbwyntio ar gynhyrchu cymaint o ŵyn â phosibl gydag ychydig iawn o fewnbwn ar ei fferm organig. Drwy gyflwyno hyrddod Mynydd Cymreig lle mae eu perfformiad wedi’u cofnodi a hwrdd terfynol, mae Owen wedi gwella ansawdd cig oen, gyda 95% bellach yn cyrraedd pwysau targed oddi ar laswellt yn unig. Ers dros ddegawd, mae Owen wedi defnyddio strategaeth fridio croes gyda diadell Mynydd Cymreig o 250 o famogiaid, gan gydbwyso caledwch a maint gyda thwf nodweddion cyhyrau.  

Ymunodd Owen â Chyllun Hyrddod Mynydd Cymru yn 2019 ac mae’n esbonio bod technoleg TSU (Uned Samplu Meinwe) y cynllun yn caniatáu iddo gofndoi mwy o ddefaid yn eu hamgylchedd naturiol yn hawdd, gan aluogi paru gwell rhwng hyrddod a mamogiaid yn seiliedig ar eu mynegion. Er enghraifft, mae Owen yn paru mamog sydd â mynegai twf is a dyfner cyhyr i hwrdd â nodweddion uwch na’r cyffredin.

Mae ei braidd yn pori ar fynyddoedd y Carneddau am chwe mis, gydag ychydif iawn o fwydo atodol, ac mae’n wyna yn yr awyr agored ym mis Ebrill. Bu Owen yn cadw 150 o ŵyn benyw bob blwyddyn gan ddewis ar gyfer rhinweddau mamol a mynegai geneteg, tra’n difa’r rhai o dan y trothwy. 

 

 

Aled Jones- Rhiwaedog

Ffon – 07755 78873

Brid o ddefaid – Defaid Cymraeg wedi gwella

Darganfyddwch ragor am Aled...

Aled yw’r bedwaredd genhedlaeth o’r teulu i ffermio yn Rhiwaedog, fferm 350 erw sy’n codi i 1,000 troedfedd uwch lefel y môr, sy’n gweithredu fel fferm bîff a defaid.  

Mae da byw Aled yn cynnwys 70 o wartheg sugno Du Cymreig ac 800 o ddefaid, wedi’u rhannu’n gyfartal rhwng 400 o famogiaid math Meirionydd a 400 o famogiaid Mynydd Cymreig sy’n cael eu croesi â hyrddod Wyneblas Caerlŷr neu Aberfield. Nododd bod rhwng 300 a 400 o’i famogiaid Meirionydd yn sganio ar 170%, tra bod ei famogiaid croesfrid yn sganio ar 180%. Pwysau targed Aled ar gyfer ei ŵyn o’i famogiaid Mynydd Cymreig pur yw 35-36kg, ac ar gyfer ŵyn o’i famogiaid croesfrid, mae’n anelu at 42-45kg. 

Mae ei famogiaid pur-Gymreig yn ŵyna tu allan ym mis Ebrill, tra bod ei famogiaid croesfrid yn ŵyna y tu mewn ym mis Mawrth.

I Aled, mae nodweddion allweddol ei famogiaid a’i ŵyn yn cynnwys ansawdd gwlân, dannedd cryf a strwythur esgyrn cadarn. Mae’n rhoi pwyslais arbennig ar dynnwch y gwlân mewn defaid Mynydd Cymreig, gan ei ystyried yn sylfaen diadell cryf. Mae dannedd da, meddai, yn hanfodol ar gyfer hirhoedledd y mamogiaid, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gynhyrchiol am flynyddoedd. Yn ogystal, mae Aled yn pwysleisio pwysigrwydd corff cryf, dwfn a llydan mewn mamogiaid a hyrddod, gan fod hyn yn eu gwneud yn addas iawn i ffynnu yn eu hamgylchedd. 

Yn flynyddol, mae Aled yn gwerthu tua 25 o hyrddod ym marchnad Dolgellau gan mai dyma lle mae’r cwsmeriaid i’w ddiadell.

 

Rhys Roberts- Hafod Farm, Wrecsam

Ffon – 07801 813561

Brid o ddefaid – Defaid Cymraeg wedi gwella

Darganfyddwch ragor am Rhys...

Lleolir ei ddiadell ar fferm fynydd ger Wrecsam, Gogledd Cymru, lle mae’r prif ddaliad yn ymestyn dros uchder o 900 i 1,500 troedfedd uwch lefel y môr. Yn ystod yr haf, mae’r mamogiaid yn pori ar gomin grug. Fel y ffermwr trydedd genhedlaeth, mae Rhys wedi ymrwymo i fridio mamog llai o faint a chaled sy’n addas ar gyfer y dirwedd heriol. 

Yn y blynyddoedd diwetaf, mae hefyd wedi cyflwyno mwy o eneteg wedi’i gwella i greu diadell wedi’i gofnodi, gan arwain at ddatblygiad mamog sy’n pwyso at 55kg. Teimla Rhys bod y maint yma o famog yn cyd-fynd yn berffaith a’i system ffermio. 

Yn ogystal a’i ddiadell Cymreig, mae Rhys yn rheoli diadell masnachol a buches o wartheg sugno. Agwedd allweddol ar ei waith yw magu ei anifeiliaid cyfnewid ei hun ar gyfer diadelloedd masnachol a Chymreig, gan anelu at leihau’r angen i brynu stoc allanol a chynnal system hunangynhaliol. 

Elfyn Owen- Ffrith Arw, Llanrwst

Ffon – 07870 886543

Brid o ddefaid – Defaid Cymraeg wedi gwella

Darganfyddwch ragor am Elfyn...

 Ers y 1980au, mae Elfyn wedi bod yn gweithredu diadell gaaedig o famogiaid Cymreig wedi’u gwella ar fferm ucheldir yn amrywio o 750 i 1,200 troedfedd uwchben lefel y môr, gan ganolbwyntio ar fridio defaid Wyneb Gwyn Llanymddyfri mewn system sy’n seiliedig ar laswellt. 

Mae Elfyn yn rheoli diadell o 480 o famogiaid Cymreig wedi’u gwella o famogiaid Gwyneblas Caerlŷr. Ymhlith y mamogiaid Cymreig wed’u gwella, mae’n cofnodi perfformiad 200 ohonynt trwy dechnegau canrannol DNA i sicrhau’r safonau uchaf o welliant genetig. Mae Elfyn wedi ymrwymo i wneud y mwyaf o effeithiolrwydd atgenhedlu ei ddiadell ac mae’n dilyn cymhareb hwrdd i famog i 1:50. Yn nhymor bridio 2023, dangosodd ei famogiaid ganran sganio o 160%. Fodd bynnag, mae Elfyn efo targed cyfradd sganio o 180% yn y tymhorau i ddod.

 Mae Elfyn wedi bod yn recordio perfformiad ei ddiadell Gwyneblas Caerlŷr ers 1997. Yn 2019, ehangodd ei ymdrechion cofnodi i gynnwys ei famogiaid Mynydd Cymreig wrth ymuno â Chynllun Hyrddod Mynydd. 

Mae EBVs yn chwarae rhan bwysig mewn proffidioldeb diadelloedd ac yn galluogi Elfyn i wneud gwell penderfyniadau bridrio ar gyfer ei ddiadell ei hun ac wrth ddewis hyrddod magu ar gyfer i’w gwsmeriaid.

 

Tystebau

"Rydym wedi defnyddio hyrddod y cofnodir eu perfformiad ar ein holl famogiaid dros y deng mlynedd diwethaf, ac rydym yn gweld gwelliannau sylweddol ym mhob agwedd o’n diadell. Mae’n sicr fod budd o ddefnyddio stoc bridio y cofnodir eu perfformiad. Caiff 250 o’n mamogiaid eu hyrdda gan hyrddod Cymreig y cofnodir eu perfformiad yn flynyddol, ac maent yn wyna yn yr awyr agored ym mis Ebrill. Cedwir y goreuon o blith yr ŵyn benyw fel mamogiaid cyfnewid o fewn y ddiadell, ac maent yn dangos eu bod yn famau o’r ansawdd uchaf, yn wyna’n hawdd a chanddynt reddfau mamol cryf. Caiff y gweddill eu bridio gyda hyrddod terfynol.

Yn ogystal â’u perfformiad mamol, rydym hefyd yn gweld fod yr hyrddod yn dod âbuddion ychwanegol o ran cynhyrchu ŵyn tew ar y fferm. Mae ein hŵyn bellach yn cyrraedd pwysau lladd o 16kg, ac yn bodloni’r fanyleb R3L, lle mai dim ond gradd O yr oeddem yn ei gwireddu yn y gorffennol."

Owen Pritchard, Glanmor Isaf, ger Bangor

Cysylltwch â ni ar

01970 828236

Arwerthiannau a Digwyddiadau Prohill

Cynhelir ein prif arwerthiant blynyddol ym Mheithyll, Aberystwyth. Ers 2020, rydym hefyd yn ffrydio ein harwerthiannau yn fyw trwy Sell My Livestock, gan gefnogi ein cwsmeriaid trwy gynnig opsiynau ychwanegol ar gyfer prynu hyrddod mynydd gyda’u perfformiad wedi’i gofnodi i weithio o fewn eich diadell.

Chofnodi Perfformiad

Mae cofnodi perfformiad yn ffurfio sail i ddethol stoc bridio mewn modd cadarnhaol, ac ar sail ystod gyfan o feini prawf o bwys economaidd sy’n hanfodol i fridwyr.