Arwerthiannau a Digwyddiadau ProHill

Arwerthiannau a Digwyddiadau

Cynhelir ein prif arwerthiant blynyddol ym Mheithyll, Aberystwyth. 

Mae nifer o fridwyr ProHill wedi bod yn cofnodi a gwerthu hyrddod ers nifer o flynyddoedd. Felly, mae grŵp bridio ProHill yn cefnogi pob dull o werthu, boed yn breifat, arwerthiant fferm, arwerthiannau marchnad neu drwy brif arwerthiant ProHill yn Aberystwyth.

Mae nifer o’n bridwyr yn gwerthu eu hyrddod yn breifat o gartref. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01970 828236

Mi fydd hyrddod ProHill ar gael yn yr arwerthiannau isod 

  • ProHill Aberystwyth 
  • Gwastadanas –  8fed o Hydref 2024 am 5yh. Arwerthiant ar fferm Gwastadanas, Nant Gwynant, o hyrddod mynydd Cymreig a’u perfformiad wedi’u cofnodi wedi’u fridio gan Bedwyr Jones.  
  • Marchnad Dolgellau
  • Tregaron 
  • Llanymddyfri

Tystebau

"Rydym wedi defnyddio hyrddod y cofnodir eu perfformiad ar ein holl famogiaid dros y deng mlynedd diwethaf, ac rydym yn gweld gwelliannau sylweddol ym mhob agwedd o’n diadell. Mae’n sicr fod budd o ddefnyddio stoc bridio y cofnodir eu perfformiad. Caiff 250 o’n mamogiaid eu hyrdda gan hyrddod Cymreig y cofnodir eu perfformiad yn flynyddol, ac maent yn wyna yn yr awyr agored ym mis Ebrill. Cedwir y goreuon o blith yr ŵyn benyw fel mamogiaid cyfnewid o fewn y ddiadell, ac maent yn dangos eu bod yn famau o’r ansawdd uchaf, yn wyna’n hawdd a chanddynt reddfau mamol cryf. Caiff y gweddill eu bridio gyda hyrddod terfynol.

Yn ogystal â’u perfformiad mamol, rydym hefyd yn gweld fod yr hyrddod yn dod âbuddion ychwanegol o ran cynhyrchu ŵyn tew ar y fferm. Mae ein hŵyn bellach yn cyrraedd pwysau lladd o 16kg, ac yn bodloni’r fanyleb R3L, lle mai dim ond gradd O yr oeddem yn ei gwireddu yn y gorffennol."

Owen Pritchard, Glanmor Isaf, ger Bangor

Cysylltwch â ni ar

01970 828236

Dewch i adnabod Bridwyr Prohill

Mae ffermio mynyddig yn hanfodol i economi, diwylliant a chymdeithas y Gymru wledig. Er mwyn cynnal yr ardaloedd gwledig hyn, mae Prohill, grŵp blaengar o fridwyr hyrddod mynydd, yn gweithio i gryfhau’r sector ddefaid yng Nghymru.

Chofnodi Perfformiad

Mae cofnodi perfformiad yn ffurfio sail i ddethol stoc bridio mewn modd cadarnhaol, ac ar sail ystod gyfan o feini prawf o bwys economaidd sy’n hanfodol i fridwyr.