Owen Pritchard yw’r bedwaredd genhedlaeth o’i deulu i ffermio Glanmor Isaf, ger Bangor yng Ngogledd Cymru, a’i nod yw i gynhyrchu cig oen gyda chyn lleied o fewnbwn â phosibl ar y fferm organig.
Drwy gyflwyno hyrddod Mynydd Cymreig lle maent eu perfformiad wedi’u cofnodi, mae Owen yn egluro eu bod wedi “mynd o werthu ŵyn Mynydd Cymreig ysgafn â gradd O i besgi 95% o ŵyn oddi ar laswellt i bwysau targed o 16.5kg i 17kg a chyrraedd fanyleb R3L trwy newid geneteg ein diadell yn unig”.
“Rydym wedi gweithredu strategaeth draws-groes ers dros 10 mlynedd dros ein praidd cnewyllyn Mynydd Cymreig o 250 o famogiaid gyda hyrddod math mynydd wedi’u cofnodi o berfformiad a hyrddod math wedi gwella, ac maen nhw i gyd wedi cael eu prynu gan y grŵp ProHill,” eglura.
“Mae perfformiad y math mynydd a gofnodwyd wedi cynnal caledwch a mamogiaid llai- mae ein mamogiaid yn aeddfedu ar 45kgs delfrydol, unrhyw fwy a byddent yn cael trafferth ffynu ar y mynydd. I gyd-fynd, mae’r hyrddod math wedo gwella wedi’u ewis i gynyddu cyfradd twf a dyfnder cyhyrau. Yn Gyffredinol, rydym weid cyflawni math penodol iawn o famog sy’n gwneud mam wych, mae’n hawdd ŵyna ac mae ganddi reddfau mamol cryf yn ogystal â chynhyrchu oen trwm sy’n tyfu’n gyflym.”
Ymunodd Owen â Chyllun Hyrddod Mynydd Cymru yn 2019 ac mae’n esbonio bod technoleg TSU (Uned Samplu Meinwe) y cynllun yn caniatáu iddo gofndoi mwy o ddefaid yn eu hamgylchedd naturiol yn hawdd, gan aluogi paru gwell rhwng hyrddod a mamogiaid yn seiliedig ar eu mynegion. Er enghraifft, mae Owen yn paru mamog sydd â mynegai twf is a dyfner cyhyr i hwrdd â nodweddion uwch na’r cyffredin.
Bob blwyddyn mae Owen yn cadw 150 o wyn benyw a ddewiswyd oherwydd eu rhinweddau mamol, gan sicrhau eu bod yn strwythurol gadarn ac iach. Diolch i Gynllun Hyrddod Mynydd Cymru, mae bellach yn cadw’r rhai sydd uwchlaw trothwy Mynegai Bridio Cymru yn unig, gan werthu’r gweddill fel difa. Mae ei feini prawf dethol llym hefyd yn cynnwys strwythur, traed, a gwlân i sicrhau bod y ddiadell yn ffynnu ar ddeiet sy’n seiliedig ar borthiant.
“Bydd symud ymlaen a pharhau i wella perfformiad y ddiadell gyda hyrddod teilyngdod mynegrif uchel yn her newydd, yn enwedig gan mai ychydig iawn o fridwyr sy’n cynhyrchu hyrddod mynydd â record perfformiad,” meddai. “Fodd bynnag, dylai diddordeb parhaus yng Nghynllun Hyrddod Mynydd Cymru a ProHill warantu ffynhonnell”.