Bu Arwerthiant Hyrddod Blynyddol ProHill 2026, a gynhaliwyd ar 23 Medi yn Peithyll, Aberystwyth, yn ddiwrnod masnachu cryf a llwyddiannus arall. Cyflwynwyd dros 80 o hyrddod o ansawdd uchel â chofnodion perfformiad, yn cynrychioli llinellau Hyrddod Mynydd Cymreig, Hyrddod Cymreig wedi Gwella, Cheviot Mynydd Brycheiniog a North Country Cheviot.
Daeth cyfanswm o 53 prynwr cofrestredig o bell ac agos i gefnogi’r digwyddiad, gan greu masnach gref drwy gydol yr arwerthiant. Cyflawnwyd pris cyfartalog o £905, tra cyrhaeddodd 25 o hyrddod dros £1,000, gan danlinellu cryfder y galw am stoc o safon uchel â chofnodion perfformiad.Pris uchaf y dydd oedd £2,600 am hwrdd blwydd Cymreig wedi Gwella gan Irwel Jones, Aberbranddu oedd a mynegai o £19.10 ac o fewn y 25% uchaf o’r brid.
Yr ail bris uchaf oedd £1,900 am hwrdd blwydd Cymreig wedi Gwella gan Gareth Roberts, Cwrt, gyda mynegai o £16.32 ac yn y 25% uchaf. Yn dilyn yn agos ar ei ôl roedd hwrdd blwydd arall Cymreig wedi Gwella gan Irwel Jones, Aberbranddu, a werthwyd am £1,800 gyda mynegai o £17.02 – eto yn y 25% uchaf.
Hyrddod Mynydd Cymreig wedi Gwella – Prisau Uchaf
- Hwrdd blwydd: £2,600 – Irwel Jones, Aberbranddu
- Hwrdd 2 flwydd: £1,150 – Edd Williams, Upper Wenallt
- Cyfartaledd y Brid: £901
Hyrddod Mynydd Cymreig – Prisau Uchaf
- Hwrdd blwydd: £1,100 – Simon a Rhodri Ll. Williams, Moelgolomen
- Hwrdd 2 flwydd: £500 – Hywel Wigley, Llwyngwern
- Cyfartaledd y Brid: £891
Cheviot Mynydd Brycheiniog – Prisau Uchaf
- Hwrdd blwydd: £750 – Iwan Davies, Meity Isaf
- Cyfartaledd y Brid: £700
North Country Cheviot – Prisau Uchaf
- Hwrdd blwydd: £1,250 – Innovis, Peithyll (wedi’i fagu gan Gerddi Gleision, Llanbrynmair)
- Cyfartaledd y Brid: £1,063
Diolch o galon i’r arwerthwr Aled Ellis ac i bawb oedd yn gwerthu: Rhidian Glyn, Simon a Rhodri Ll. Williams, Carys Jones, Garry Williams, Iwan Davies, Irwel Jones, Tim a Dot Tyne, Arwyn Williams, Gareth Roberts, Hywel Wigley, Edd Williams ac Innovis am ddarparu detholiad mor gryf o hyrddod â chofnodion perfformiad.
Roedd yr arwerthiant yn canolbwyntio ar stoc o ansawdd a fagwyd gartref gan yr holl werthwyr, gan arddangos manteision cofnodi perfformiad a’r gwaith sy’n mynd i mewn i fagu defaid sy’n cyrraedd anghenion diadelloedd masnachol.
Diolch i bawb a ddaeth i brynu ac i gefnogi’r arwerthiant. Dymunwn gyfnod hyrdda llwyddiannus i’r holl brynwyr y tymor hwn ac edrychwn ymlaen at glywed sut mae’r hyrddod wedi perfformio yn y gwanwyn.
Gobeithiwn eich gweld chi i gyd eto’r flwyddyn nesaf!
