Mae buddsoddi mewn hyrddod sydd â pherfformiad wedi’i gofnodi wedi bod yn drobwynt i John Hopkins, sydd wedi rhedeg defaid Mynyddoedd Cymreig math Tregaron o’r grŵp ProHill gyda’i ddiadell yng Ngheredigion yn llwyddiannus am y wyth mlynedd diwethaf.
Nododd John, “Er y gall yr hyrddod hyn gostio ychydig yn fwy ar gyfartaledd, rwyf wedi dysgu o brofiad eu bod gwerth eu pris; maent wedi ein galluogi i wella’n mamogiaid math Tregaron wrth gadw eu caledwch, hyd ac edafedd gwlân tynn. Rydym yn diddyfnu eu hŵyn dau i dair wythnos yn gynharach ar bedwar mis oed ac maent yn mynd ymlaen i orffen ar ddietau porfa pur 1kg yn drymach ar gyfartaledd o 17.5kg ar ôl 16 wythnos, gyda’r mwyafrif bellach yn cyrraedd manyleb R3L. Ein nod yw i’r mwyafrif fynd erbyn y Nadolig.”
Yn y gorffennol, gwariodd John symiau sylweddol ar hyrddod heb berfformiad wedi’i gofnodi, ond roedd y rhain yn aml yn siomedig, gan ffynnu fel arfer am un tymor yn unig. Yn wahanol, gyda’r hyrddod y mae wedi’u prynu gan aelodau’r grŵp ProHill, maent yn para am o leiaf bedwar tymor ac yn gallu cael eu rhedeg mewn cymhareb 1:80 hwrdd-i-famog.
“Credaf fod pawb yn gyfrifol am brynu’r hyn sy’n edrych yn well ar y diwrnod yn y cylch ocsiwn, pan mai’r potensial perfformiad geneteg sy’n bwysig ynghyd a’r system fagu y maent wedi dod ohoni. Nid yw hyrddod grŵp ProHill wedi cael eu gorfwydo.”
Mae polisi dewis hyrddod John yn cyd-fynd yn berffaith â’r system gost isel sydd wedi’i fabwysiadu yng Ngheunant, Pisgah, uned 600 erw ger Aberystwyth. Ei nod yw i wella effeithlonrwydd ei ddiadell i gynnal elw, a ffordd o gyflawni hyn yw trwy gynyddu pwysau’r ŵyn o ddiet porfa. Mae cyflwyno hyrddod sydd â pherfformiad wedi’i gofnodi wedi bod yn allweddol i’r broses hon, gan ei alluogi i symud o werthu ŵyn ysgafn 15kg i orffen y cyfan heb angen bwyd ychwanegol.
Tra bod hanner y ddiadell yn cael eu magu’n gymysg i gynnal y ddiadell, mae’r mamogiaid hŷn sy’n weddill yn cael eu croesi â hyrddod Aberdale neu Aberfield, a chaiff eu hŵyn benyw eu gwerthu i brynwyr mynych ar gyfer bridio.
Ychwanegodd: “Credwn ein bod ni bellach efo mamog sy’n un ar gyfer y dyfodol; mae hi o faint a chydffurfiad da, yn addas i’n system ac yn galluogi’r defaid i ddod yn fwy cynaliadwy. Yn wir, rydym yn parhau i leihau ein mamogiaid ‘Beulah Speckled Face’ a rhoi mamogiaid Mynyddoedd Cymreig math Tregaron yn eu lle.”